Lefiticus 25:36-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

36. Paid â chymryd llog nac elw oddi wrtho, ond ofna dy Dduw, er mwyn iddo barhau i fyw yn eich mysg.

37. Nid wyt i fenthyca arian iddo ar log nac i werthu bwyd iddo am elw.

38. Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw, a ddaeth â thi allan o wlad yr Aifft i roi iti wlad Canaan, ac i fod yn Dduw iti.

39. “ ‘Os bydd un ohonoch yn dlawd ac yn ei werthu ei hun iti, paid â'i orfodi i weithio iti fel caethwas.

Lefiticus 25