Lefiticus 23:41-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

41. Dathlwch yr ŵyl hon i'r ARGLWYDD am saith diwrnod bob blwyddyn. Y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros y cenedlaethau, eich bod i'w dathlu yn y seithfed mis.

42. Yr ydych i fyw mewn pebyll am saith diwrnod; y mae holl frodorion Israel i fyw mewn pebyll,

43. er mwyn i'ch disgynyddion wybod imi wneud i bobl Israel fyw mewn pebyll pan ddeuthum â hwy allan o wlad yr Aifft. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.’ ”

44. Cyhoeddodd Moses holl wyliau'r ARGLWYDD i bobl Israel.

Lefiticus 23