Lefiticus 23:21-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. Ar y diwrnod hwnnw yr ydych i gyhoeddi cymanfa sanctaidd, ac i beidio â gwneud unrhyw waith arferol. Y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros y cenedlaethau i ddod, ble bynnag y byddwch yn byw.

22. “ ‘Pan fyddi'n medi cynhaeaf dy dir, paid â medi at ymylon dy faes, a phaid â lloffa dy gynhaeaf; gad hwy i'r tlawd a'r estron. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.’ ”

23. Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

24. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Ar y dydd cyntaf o'r seithfed mis yr ydych i gael diwrnod gorffwys; bydd yn gymanfa sanctaidd, i'w dathlu â chanu utgyrn.

25. Nid ydych i wneud unrhyw waith arferol, ond cyflwynwch aberth trwy dân i'r ARGLWYDD.’ ”

26. Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

27. “Yn wir, ar y degfed dydd o'r seithfed mis cynhelir Dydd y Cymod; bydd yn gymanfa sanctaidd ichwi, a byddwch yn ymddarostwng ac yn cyflwyno aberth trwy dân i'r ARGLWYDD.

28. Nid ydych i wneud unrhyw waith y diwrnod hwnnw, am ei fod yn Ddydd y Cymod, pan wneir cymod drosoch gerbron yr ARGLWYDD eich Duw.

29. Bydd unrhyw un na fydd yn ymddarostwng y diwrnod hwnnw yn cael ei dorri ymaith o blith ei bobl.

Lefiticus 23