Lefiticus 23:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Dyma fydd y gwyliau, sef gwyliau'r ARGLWYDD, a gyhoeddwch yn gymanfaoedd sanctaidd:

3. “ ‘Ar chwe diwrnod y cewch weithio, ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth o orffwys, yn gymanfa sanctaidd; nid ydych i wneud unrhyw waith, oherwydd ple bynnag yr ydych yn byw, Saboth i'r ARGLWYDD ydyw.

Lefiticus 23