Lefiticus 16:32-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

32. Yr offeiriad a eneiniwyd ac a gysegrwyd yn offeiriad yn lle ei dad fydd yn gwneud cymod; bydd yn gwisgo dillad sanctaidd o liain,

33. ac yn gwneud cymod dros y cysegr, pabell y cyfarfod a'r allor, a hefyd dros yr offeiriaid a holl bobl y gynulleidfa.

34. Bydd hon yn ddeddf dragwyddol ichwi. Gwneir cymod unwaith y flwyddyn dros bobl Israel oherwydd eu holl bechodau.” Gwnaed fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.

Lefiticus 16