14. Bydd yn cymryd peth o waed y bustach ac yn ei daenellu â'i fys ar wyneb dwyrain y drugareddfa; bydd yn taenellu peth o'r gwaed â'i fys seithwaith o flaen y drugareddfa.
15. “Yna bydd yn lladd bwch yr aberth dros bechod y bobl ac yn dod â'i waed y tu ôl i'r llen, ac yn gwneud â'i waed fel y gwnaeth â gwaed y bustach trwy ei daenellu ar y drugareddfa ac o'i blaen.
16. Fel hyn y bydd yn gwneud cymod dros y cysegr, oherwydd aflendid pobl Israel a'u troseddau o achos eu holl bechodau; bydd yn gwneud yr un fath dros babell y cyfarfod, sydd yn eu mysg yng nghanol eu holl aflendid.
17. Ni chaiff unrhyw un fynd i mewn i babell y cyfarfod, ar ôl i Aaron fynd i mewn i wneud cymod yn y cysegr, nes iddo ddod allan, wedi iddo orffen gwneud cymod drosto'i hun, ei dylwyth a holl gynulleidfa Israel.
18. Yna bydd yn dod allan at yr allor sydd o flaen yr ARGLWYDD, ac yn gwneud cymod drosti. Bydd yn cymryd peth o waed y bustach ac o waed y bwch, ac yn ei roi ar gyrn yr allor o'i hamgylch.