Lefiticus 10:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Peidiwch â gadael drws pabell y cyfarfod, neu byddwch farw, oherwydd y mae olew eneinio yr ARGLWYDD arnoch.” Gwnaethant fel y dywedodd Moses.

8. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Aaron,

9. “Nid wyt ti na'th feibion i yfed gwin na diod gadarn pan fyddwch yn dod i babell y cyfarfod, rhag ichwi farw. Y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros eich cenedlaethau,

10. er mwyn ichwi wahaniaethu rhwng sanctaidd a chyffredin, a rhwng aflan a glân,

11. a dysgu i bobl Israel yr holl ddeddfau a roddodd yr ARGLWYDD iddynt trwy Moses.”

Lefiticus 10