Jwdas 1:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Jwdas, gwas Iesu Grist, a brawd Iago, at y rhai sydd wedi eu galw, yn annwyl gan Dduw y Tad ac wedi eu cadw i Iesu Grist.

2. Trugaredd a thangnefedd a chariad a amlhaer i chwi!

3. Gyfeillion annwyl, yr oeddwn yn awyddus iawn i ysgrifennu atoch am yr iachawdwriaeth sy'n eiddo i ni i gyd, ond daeth rheidrwydd arnaf i ysgrifennu atoch i'ch annog i ymuno yn y frwydr o blaid y ffydd a draddodwyd un waith am byth i'r saint.

Jwdas 1