Josua 9:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. atebasant, “Y mae dy weision wedi dod o wlad bell iawn o achos enw'r ARGLWYDD dy Dduw; oblegid clywsom sôn amdano ef, ac am y cwbl a wnaeth yn yr Aifft,

10. ac i ddau frenin yr Amoriaid y tu hwnt i'r Iorddonen, Sihon brenin Hesbon ac Og brenin Basan, a drigai yn Astaroth.

11. Am hynny dywedodd ein henuriaid a holl drigolion ein gwlad wrthym, ‘Cymerwch fwyd ar gyfer y daith ac ewch i'w cyfarfod, a dywedwch wrthynt, “Eich gweision ydym; felly'n awr gwnewch gyfamod â ni.” ’

12. Dyma'n bara; yr oedd yn boeth pan oeddem yn darparu i fynd oddi cartref, y diwrnod yr oeddem yn cychwyn i ddod atoch. Edrychwch fel y mae'n awr wedi sychu a llwydo.

Josua 9