Josua 7:10-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Ac meddai'r ARGLWYDD wrth Josua, “Cod; pam yr wyt ti wedi syrthio ar dy wyneb fel hyn?

11. Pechodd Israel trwy dorri fy nghyfamod a orchmynnais iddynt; mwy na hynny, y maent wedi cymryd rhan o'r diofryd, ei ladrata trwy dwyll, a'i osod gyda'u pethau eu hunain.

12. Ni all yr Israeliaid sefyll o flaen eu gelynion; byddant yn troi eu gwar o flaen eu gelynion, oherwydd aethant yn ddiofryd. Ni fyddaf gyda chwi mwyach oni ddilëwch y diofryd o'ch plith.

13. Cod, cysegra'r bobl a dywed wrthynt, ‘Ymgysegrwch erbyn yfory, oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: “Y mae diofryd yn eich plith, Israel; ni fedrwch sefyll o flaen eich gelynion nes ichwi symud y diofryd o'ch plith.”

14. Yfory rhaid ichwi ddod gerbron yr ARGLWYDD fesul llwyth; yna daw'r llwyth a ddelir ganddo fesul tylwyth, y tylwyth fesul teulu, a'r teulu fesul un.

15. A phwy bynnag a ddelir gyda'r diofryd, fe'i llosgir ef a'r cwbl a berthyn iddo, am iddo droseddu yn erbyn cyfamod yr ARGLWYDD a gwneud tro ysgeler yn Israel.’ ”

16. Cododd Josua yn fore drannoeth, a dod â'r Israeliaid gerbron fesul llwyth. Daliwyd llwyth Jwda.

17. Daeth â thylwythau Jwda gerbron, a daliwyd tylwyth y Sarhiaid; yna daeth â thylwyth y Sarhiaid fesul teulu, a daliwyd Sabdi.

Josua 7