Josua 24:21-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. Dywedodd y bobl wrth Josua, “Na, yr ydym am wasanaethu'r ARGLWYDD.”

22. Yna dywedodd Josua wrth y bobl, “Yr ydych yn dystion yn eich erbyn eich hunain i chwi ddewis gwasanaethu'r ARGLWYDD.” Atebasant hwythau, “Tystion ydym.”

23. “Yn awr ynteu,” meddai, “bwriwch allan y duwiau estron sydd yn eich mysg, a throwch eich calon at yr ARGLWYDD, Duw Israel.”

24. Dywedodd y bobl wrth Josua, “Fe addolwn yr ARGLWYDD ein Duw, a gwrandawn ar ei lais ef.”

Josua 24