Josua 23:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Oherwydd gyrrodd yr ARGLWYDD allan o'ch blaen genhedloedd mawr a nerthol; nid oes un ohonynt wedi'ch gwrthsefyll hyd y dydd hwn.

10. Y mae un ohonoch chwi'n peri i fil ohonynt hwy ffoi, oherwydd bod yr ARGLWYDD eich Duw yn ymladd drosoch, fel yr addawodd wrthych.

11. Byddwch yn ofalus, bob un ohonoch, eich bod yn caru'r ARGLWYDD eich Duw.

12. Oherwydd os gwrthgiliwch, a glynu wrth weddill y cenhedloedd hyn a adawyd yn eich mysg, a phriodi a chymysgu รข hwy,

13. gallwch fod yn gwbl sicr na fydd yr ARGLWYDD eich Duw yn parhau i yrru'r cenhedloedd hyn allan o'ch blaen. Yn hytrach byddant yn fagl ac yn dramgwydd ichwi, yn chwip ar eich cefnau ac yn ddrain yn eich llygaid, nes y byddwch wedi'ch difa o'r wlad dda hon a roddodd yr ARGLWYDD eich Duw i chwi.

Josua 23