Josua 21:30-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

30. O lwyth Aser cafwyd Misal, Abdon,

31. Helcath a Rehob, bob un â'i phorfeydd: pedair dinas.

32. O lwyth Nafftali cafwyd Cedes, dinas noddfa i leiddiaid yn Galilea, a hefyd Hammoth-dor a Cartan, bob un â'i phorfeydd: tair dinas.

33. Yr oedd gan y Gersoniaid, yn ôl eu teuluoedd, dair dinas ar ddeg i gyd, a'u porfeydd.

34. Gan lwyth Sabulon cafodd gweddill y Lefiaid a hanoedd o Merari, yn ôl eu teuluoedd, Jocneam, Carta,

35. Dimna a Nahalal, bob un â'i phorfeydd: pedair dinas.

Josua 21