Josua 21:11-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Rhoesant iddynt Ciriath-arba (Arba oedd tad Anac), sef Hebron ym mynydd-dir Jwda, a'r porfeydd o'i hamgylch.

12. Ond rhoesant dir y ddinas a'i phentrefi yn etifeddiaeth i Caleb fab Jeffunne.

13. I ddisgynyddion Aaron yr offeiriad rhoesant Hebron, dinas noddfa i leiddiaid, hefyd Libna,

14. Jattir, Estemoa,

15. Holon, Debir,

16. Ain, Jutta a Beth-semes, bob un รข'i phorfeydd: naw dinas gan y ddau lwyth hynny.

Josua 21