Josua 2:22-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

22. Aethant hwythau, a chyrraedd y mynyddoedd ac aros yno dridiau, nes i'r ymlidwyr ddychwelyd.

23. Bu'r ymlidwyr yn chwilio amdanynt bob cam o'r ffordd, ond heb eu cael. Yna daeth y ddau i lawr o'r mynyddoedd yn eu hôl, a chroesi drosodd at Josua fab Nun ac adrodd wrtho bopeth a ddigwyddodd iddynt,

24. a dweud, “Yn wir y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r holl wlad yn ein dwylo, ac y mae'r trigolion i gyd mewn gwewyr o'n plegid.”

Josua 2