4. Yna dechreuodd Jona fynd trwy'r ddinas, ac wedi mynd daith un diwrnod cyhoeddodd, “Ymhen deugain diwrnod fe ddymchwelir Ninefe.”
5. Credodd pobl Ninefe yn Nuw, a chyhoeddasant ympryd a gwisgo sachliain, o'r mwyaf hyd y lleiaf ohonynt.
6. A phan ddaeth y newydd at frenin Ninefe, cododd yntau oddi ar ei orsedd, a diosg ei fantell a gwisgo sachliain ac eistedd mewn lludw.
7. Gwnaeth broclamasiwn a'i gyhoeddi yn Ninefe:“Trwy orchymyn y brenin a'i uchelwyr:“Na fydded i ddyn nac anifail, gwartheg na defaid, brofi dim; na fydded iddynt fwyta nac yfed.