Joel 1:11-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Safwch mewn braw, amaethwyr,galarwch, winwyddwyr,am y gwenith a'r haidd;oherwydd difawyd cynhaeaf y maes.

12. Gwywodd y winwydden,a deifiwyd y ffigysbren.Y prennau pomgranad, y palmwydd a'r coed afalau—y mae holl brennau'r maes wedi gwywo.A diflannodd llawenydd o blith y bobl.

13. Gwisgwch sachliain a galaru, offeiriaid,codwch gwynfan, weinidogion yr allor.Ewch i dreulio'r nos mewn sachliain,weinidogion fy Nuw,oherwydd i'r bwydoffrwm a'r diodoffrwmgael eu hatal o dŷ eich Duw.

Joel 1