Job 8:5-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Os ceisi di Dduw yn ddyfal,ac ymbil ar yr Hollalluog,

6. ac os wyt yn bur ac uniawn,yna fe wylia ef drosot,a'th adfer i'th safle o gyfiawnder.

7. Pe byddai dy ddechreuad yn fychan,byddai dy ddiwedd yn fawr.

8. “Yn awr gofyn i'r oes a fu,ac ystyria'r hyn a ganfu'r hynafiaid.

9. Canys nid ydym ni ond er doe, ac anwybodus ŷm,a chysgod yw ein dyddiau ar y ddaear.

10. Oni fyddant hwy'n dy hyfforddi, a mynegi wrthyt,a rhoi atebion deallus?

11. A dyf brwyn lle nad oes cors?A ffynna hesg heb ddŵr?

12. Er eu bod yn ir a heb eu torri,eto gwywant yn gynt na'r holl blanhigion.

13. Felly y mae tynged yr holl rai sy'n anghofio Duw,ac y derfydd gobaith yr annuwiol.

14. Edau frau yw ei hyder,a'i ymffrost fel gwe'r pryf copyn.

15. Pwysa ar ei dŷ, ond ni saif;cydia ynddo, ond ni ddeil.

16. Bydd yn ir yn llygad yr haul,yn estyn ei frigau dros yr ardd;

17. ymbletha'i wraidd dros y pentwr cerrig,a daw i'r golwg rhwng y meini.

18. Ond os diwreiddir ef o'i le,fe'i gwedir: ‘Ni welais di’.

Job 8