Job 8:16-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Bydd yn ir yn llygad yr haul,yn estyn ei frigau dros yr ardd;

17. ymbletha'i wraidd dros y pentwr cerrig,a daw i'r golwg rhwng y meini.

18. Ond os diwreiddir ef o'i le,fe'i gwedir: ‘Ni welais di’.

19. Gwywo felly yw ei natur;ac yna tyf un arall o'r pridd.

20. “Wele, ni wrthyd Duw yr uniawn,ac ni chydia yn llaw y drygionus.

21. Lleinw eto dy enau â chwerthin,a'th wefusau â gorfoledd.

22. Gwisgir dy elynion â gwarth,a diflanna pabell y drygionus.”

Job 8