Job 7:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Y mae fy nyddiau'n gyflymach na gwennol gwehydd;darfyddant fel edafedd yn dirwyn i ben.

7. “Cofia mai awel o wynt yw fy hoedl;ni wêl fy llygaid ddaioni eto.

8. Y llygad sy'n edrych arnaf, ni'm gwêl;ar amrantiad ni fyddaf ar gael iti.

9. Fel y cili'r cwmwl a diflannu,felly'r sawl sy'n mynd i Sheol, ni ddychwel oddi yno;

Job 7