Job 6:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Y mae fy stumog yn eu gwrthod;y maent fel pydredd fy nghnawd.

8. “O na ddôi fy nymuniad i ben,ac na chyflawnai Duw fy ngobaith!

9. O na ryngai fodd i Dduw fy nharo,ac estyn ei law i'm torri i lawr!

10. Byddai o hyd yn gysur imi,a llawenhawn yn yr ing diarbed(nid wyf yn gwadu geiriau'r Sanct).

11. Pa nerth sydd gennyf i obeithio,a beth fydd fy niwedd, fel y byddwn yn amyneddgar?

Job 6