Job 41:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. A fydd masnachwyr yn bargeinio amdano,i'w rannu rhwng y gwerthwyr?

7. A osodi di bigau haearn yn ei groen,a bachau pysgota yn ei geg?

8. Os gosodi dy law arno,fe gofi am yr ysgarmes, ac ni wnei hyn eto.

9. Yn wir twyllodrus yw ei lonyddwch;onid yw ei olwg yn peri arswyd?

10. Nid oes neb yn ddigon eofn i'w gynhyrfu;a phwy a all sefyll o'i flaen?

11. Pwy a ddaw ag ef ataf, imi gael rhoi gwobr iddoo'r cyfan sydd gennyf dan y nef?

Job 41