Job 41:19-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. Daw fflachiadau allan o'i geg,a thasga gwreichion ohoni.

20. Daw mwg o'i ffroenau,fel o grochan yn berwi ar danllwyth.

21. Y mae ei anadl yn tanio cynnud,a daw fflam allan o'i geg.

22. Y mae cryfder yn ei wddf,ac arswyd yn rhedeg o'i flaen.

23. Y mae plygion ei gnawd yn glynu wrth ei gilydd,ac mor galed amdano fel na ellir eu symud.

24. Y mae ei galon yn gadarn fel craig,mor gadarn â maen melin.

25. Pan symuda, fe ofna'r cryfion;ânt o'u pwyll oherwydd sŵn y rhwygo.

Job 41