3. Wele, buost yn cynghori llawerac yn nerthu'r llesg eu dwylo;
4. cynhaliodd dy eiriau'r rhai sigledig,a chadarnhau'r gliniau gwan.
5. Ond yn awr daeth adfyd arnat ti, a chymeraist dramgwydd;cyffyrddodd รข thi, ac yr wyt mewn helbul.
6. Onid yw dy dduwioldeb yn hyder i ti,ac uniondeb dy fywyd yn obaith?
7. Ystyria'n awr, pwy sydd wedi ei ddifetha ac yntau'n ddieuog,a phwy o'r uniawn sydd wedi ei dorri i lawr?