Job 39:24-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

24. Yn aflonydd a chynhyrfus y mae'n difa'r ddaear;ni all aros yn llonydd pan glyw sain utgorn.

25. Pan glyw'r utgorn, dywed, ‘Aha!’Fe synhwyra frwydr o bell,trwst y capteiniaid a'u bloedd.

26. “Ai dy ddeall di sy'n gwneud i'r hebog hedfana lledu ei adenydd tua'r De?

27. Ai d'orchymyn di a wna i'r eryr hedfana gosod ei nyth yn uchel?

28. Fe drig ar y graig, ac aros ynoyng nghilfach y graig a'i diogelwch.

29. Oddi yno y chwilia am fwyd,gan edrych i'r pellter.

Job 39