Job 39:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. “Ai ti sy'n rhoi nerth i'r march,ac yn gwisgo'i war â mwng?

20. Ai ti sy'n gwneud iddo ruglo fel locust,a gweryru nes creu dychryn?

21. Cura'r llawr â'i droed, ac ymffrostia yn ei nerthpan â allan i wynebu'r frwydr.

22. Y mae'n ddi-hid ac yn ddi-fraw;ni thry'n ôl rhag y cleddyf.

Job 39