Job 38:24-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

24. Prun yw'r ffordd i'r fan lle y rhennir goleuni,ac y gwasgerir gwynt y dwyrain ar y ddaear?

25. “Pwy a wnaeth sianel i'r cenllif glaw,a llwybr i'r daranfollt,

26. i lawio ar dir heb neb ynddo,a diffeithwch heb unrhyw un yn byw ynddo,

27. i ddigoni'r tir diffaith ac anial,a pheri i laswellt dyfu yno?

28. “A oes tad i'r glaw?Pwy a genhedlodd y defnynnau gwlith?

29. O groth pwy y daw'r rhew?A phwy a genhedlodd y llwydrew,

Job 38