Job 38:22-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

22. “A fuost ti yn ystordai'r eira,neu'n gweld cistiau'r cesair?

23. Dyma'r pethau a gedwais at gyfnod trallod,at ddydd brwydr a rhyfel.

24. Prun yw'r ffordd i'r fan lle y rhennir goleuni,ac y gwasgerir gwynt y dwyrain ar y ddaear?

25. “Pwy a wnaeth sianel i'r cenllif glaw,a llwybr i'r daranfollt,

26. i lawio ar dir heb neb ynddo,a diffeithwch heb unrhyw un yn byw ynddo,

27. i ddigoni'r tir diffaith ac anial,a pheri i laswellt dyfu yno?

28. “A oes tad i'r glaw?Pwy a genhedlodd y defnynnau gwlith?

29. O groth pwy y daw'r rhew?A phwy a genhedlodd y llwydrew,

30. i galedu'r dyfroedd fel carreg,a rhewi wyneb y dyfnder?

31. A fedri di gau cadwynau Pleiades,neu ddatod rhwymau Orion?

32. A fedri di ddwyn Masaroth allan yn ei bryd,a thywys yr Arth gyda'i phlant?

33. A wyddost ti reolau'r awyr?A fedri di gymhwyso i'r ddaear ei threfn?

34. “A fedri di alw ar y cwmwli beri i ddyfroedd lifo drosot?

35. A fedri di roi gorchymyn i'r mellt,iddynt ddod atat a dweud, ‘Dyma ni’?

36. Pwy a rydd ddoethineb i'r cymylau,a deall i'r niwl?

37. Gan bwy y mae digon o ddoethineb i gyfrif y cymylau?A phwy a wna i gostrelau'r nefoedd arllwys,

38. nes bod llwch yn mynd yn llaid,a'r tywyrch yn glynu wrth ei gilydd?

39. “Ai ti sydd yn hela ysglyfaeth i'r llew,a diwallu angen y llewod ifanc,

Job 38