Job 37:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Daw'r corwynt allan o'i ystafell,ac oerni o'r tymhestloedd.

10. Daw anadl Duw â'r rhew,a rhewa'r llynnoedd yn galed.

11. Lleinw'r cwmwl hefyd â gwlybaniaeth,a gwasgara'r cwmwl ei fellt.

12. Gwibiant yma ac acw ar ei orchymyn,i wneud y cyfan a ddywed wrthynt,dros wyneb daear gyfan.

13. “Gwna hyn naill ai fel cosb,neu er mwyn ei dir, neu mewn trugaredd.

14. “Gwrando ar hyn, Job;aros ac ystyria ryfeddodau Duw.

Job 37