Job 37:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Â'r anifeiliaid i'w ffeuau,ac aros yn eu gwâl.

9. Daw'r corwynt allan o'i ystafell,ac oerni o'r tymhestloedd.

10. Daw anadl Duw â'r rhew,a rhewa'r llynnoedd yn galed.

11. Lleinw'r cwmwl hefyd â gwlybaniaeth,a gwasgara'r cwmwl ei fellt.

12. Gwibiant yma ac acw ar ei orchymyn,i wneud y cyfan a ddywed wrthynt,dros wyneb daear gyfan.

Job 37