Job 37:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Fe ddywed wrth yr eira, ‘Disgyn ar y ddaear’,ac wrth y glaw a'r cawodydd, ‘Trymhewch’.

7. Y mae pob un yn cael ei gau i mewn,a phopeth a wnânt yn cael ei atal.

8. Â'r anifeiliaid i'w ffeuau,ac aros yn eu gwâl.

9. Daw'r corwynt allan o'i ystafell,ac oerni o'r tymhestloedd.

10. Daw anadl Duw â'r rhew,a rhewa'r llynnoedd yn galed.

11. Lleinw'r cwmwl hefyd â gwlybaniaeth,a gwasgara'r cwmwl ei fellt.

Job 37