Job 37:11-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Lleinw'r cwmwl hefyd â gwlybaniaeth,a gwasgara'r cwmwl ei fellt.

12. Gwibiant yma ac acw ar ei orchymyn,i wneud y cyfan a ddywed wrthynt,dros wyneb daear gyfan.

13. “Gwna hyn naill ai fel cosb,neu er mwyn ei dir, neu mewn trugaredd.

14. “Gwrando ar hyn, Job;aros ac ystyria ryfeddodau Duw.

15. A wyt ti'n deall sut y mae Duw yn trefnu,ac yn gwneud i'r mellt fflachio yn ei gwmwl?

16. A wyt ti'n deall symudiadau'r cymylau,rhyfeddodau un perffaith ei wybodaeth?

17. Ti, sy'n chwysu yn dy ddilladpan fydd y ddaear yn swrth dan wynt y de,

18. a fedrit ti, fel ef, daenu'r wybren,sy'n galed fel drych o fetel tawdd?

19. Dywed wrthym beth i'w ddweud wrtho;oherwydd y tywyllwch ni allwn ni drefnu'n hachos.

20. A ellir dweud wrtho, ‘Yr wyf fi am lefaru’,neu fynegi iddo, ‘Y mae hwn am siarad’?

21. “Ond yn awr, ni all neb edrych ar y goleunipan yw'n ddisglair yn yr awyr,a'r gwynt wedi dod a'i chlirio.

22. Disgleiria o'r gogledd fel aur;o gwmpas Duw y mae ysblander ofnadwy.

23. Ni allwn ni ganfod yr Hollalluog,y mae'n fawr ei nerth;yn ei farn a'i gyfiawnder ni wna gam.

24. Am hyn, y mae pawb yn ei ofni,a phob un doeth yn edrych ato.”

Job 37