Job 36:16-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. “Er iddo geisio dy ddenu oddi wrth ofid,a'th ddwyn o le cyfyng i ehangder,a hulio dy fwrdd â phob braster,

17. yr wyt yn llawn o farn ar y drygionus,wedi dy feddiannu gan farn a chyfiawnder.

18. Gwylia rhag cael dy hudo gan ddigonedd,a phaid â gadael i faint y rhodd dy ddenu.

19. A fydd dy gyfoeth yn dy helpu mewn cyfyngder,neu holl adnoddau dy nerth?

20. Paid â dyheu am y nos,pan symudir pobloedd o'u lle.

21. Gwylia rhag troi at ddrygioni,oherwydd dewisi hyn yn hytrach na gofid.

Job 36