Job 35:2-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. “A gredi di fod hyn yn iawn?A wyt ti'n honni bod yn gyfiawn o flaen Duw,

3. a thithau'n dweud, ‘Pa werth ydyw i ti,neu pa fantais i mi fy hun fod heb bechu?’

4. Fe roddaf fi'r ateb iti,a hefyd i'th gyfeillion.

5. Edrych ar yr awyr, ac ystyria,a sylwa ar y cymylau sydd uwch dy ben.

6. Os pechaist, pa wahaniaeth yw iddo ef?Ac os amlha dy droseddau, beth a wna hynny iddo ef?

7. Os wyt yn gyfiawn, beth yw'r fantais iddo ef,neu beth a dderbyn ef o'th law?

8. Â meidrolion fel ti y mae a wnelo dy ddrygioni,ac â phobl y mae a wnelo dy gyfiawnder.

9. “Pan waedda pobl dan faich gorthrwm,a llefain am waredigaeth o afael y mawrion,

10. ni ddywed neb, ‘Ble mae Duw, fy ngwneuthurwr,a rydd destun cân yn y nos,

11. ac a'n gwna'n fwy deallus na'r anifeiliaid gwylltion,ac yn fwy doeth nag adar yr awyr?’

12. Felly, er iddynt weiddi, nid etyb ef,o achos balchder y drygionus.

13. Ofer yn wir! Nid yw Duw'n gwrando arno,ac nid yw'r Hollalluog yn cymryd sylw ohono.

Job 35