Job 35:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dywedodd Elihu:

2. “A gredi di fod hyn yn iawn?A wyt ti'n honni bod yn gyfiawn o flaen Duw,

3. a thithau'n dweud, ‘Pa werth ydyw i ti,neu pa fantais i mi fy hun fod heb bechu?’

4. Fe roddaf fi'r ateb iti,a hefyd i'th gyfeillion.

5. Edrych ar yr awyr, ac ystyria,a sylwa ar y cymylau sydd uwch dy ben.

6. Os pechaist, pa wahaniaeth yw iddo ef?Ac os amlha dy droseddau, beth a wna hynny iddo ef?

Job 35