Job 34:28-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

28. Gwnânt i gri'r tlawd ddod ato,ac iddo glywed gwaedd yr anghenus.

29. Ond y mae ef yn dawel, pwy bynnag a wna ddrwg;y mae'n cuddio'i wyneb, pwy bynnag a'i cais—boed genedl neu unigolyn—

30. rhag i neb annuwiol lywodraethu,a maglu pobl.

31. “Os dywed un wrth Dduw,‘Euthum ar gyfeiliorn, ni wnaf ddrwg eto;

32. am na allaf fi weld, hyffordda di fi;os gwneuthum ddrygioni, ni chwanegaf ato’—

Job 34