Job 32:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Peidiodd y tri gŵr â dadlau rhagor â Job, am fod Job yn ei ystyried ei hun yn fwy cyfiawn na Duw.

2. Ond yr oedd Elihu fab Barachel y Busiad, o dylwyth Ram, wedi ei gythruddo yn erbyn Job. Yr oedd yn ddig am ei fod yn ei ystyried ei hun yn gyfiawn gerbron Duw,

3. a'r un mor ddig wrth ei dri chyfaill am eu bod yn methu ateb Job er iddynt ei gondemnio.

Job 32