Job 31:5-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. “A euthum ar ôl oferedd,a phrysuro fy ngherddediad i dwyllo?

6. Pwyser fi mewn cloriannau cywiri Dduw gael gweld fy nghywirdeb.

7. Os gwyrodd fy ngham oddi ar y ffordd,a'm calon yn dilyn fy llygaid,neu os glynodd unrhyw aflendid wrth fy nwylo,

8. yna caiff arall fwyta'r hyn a heuais,a diwreiddir yr hyn a blennais.

9. “Os denwyd fy nghalon gan ddynes,ac os bûm yn llercian wrth ddrws fy nghymydog,

10. yna caiff fy ngwraig innau falu blawd i arall,a chaiff dieithryn orwedd gyda hi.

11. Oherwydd byddai hynny'n anllad,ac yn drosedd i'r barnwyr;

12. byddai fel tân yn difa'n llwyr,ac yn dinistrio fy holl gynnyrch.

13. “Os diystyrais achos fy ngwas neu fy morwynpan oedd ganddynt gŵyn yn fy erbyn,

14. beth a wnaf pan gyfyd Duw?Beth a atebaf pan ddaw i'm cyhuddo?

15. Onid ef a'n gwnaeth ni'n dau yn y groth,a'n creu yn y bru?

Job 31