Job 3:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch;na chyfrifer ef gan Dduw oddi uchod,ac na lewyrched goleuni arno.

5. Cuddier ef gan dywyllwch a'r fagddu;arhosed cwmwl arno a gorlether ef gan ddüwch y dydd.

6. Cymered y gwyll feddiant o'r nos honno;na chyfrifer hi ymhlith dyddiau'r flwyddyn,ac na ddoed i blith nifer y misoedd.

7. Wele'r nos honno, bydded ddiffrwyth,heb sŵn gorfoledd ynddi.

Job 3