Job 3:14-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. gyda brenhinoedd a chynghorwyr daear,a fu'n adfer adfeilion iddynt eu hunain,

15. neu gyda thywysogion goludog,a lanwodd eu tai ag arian,

16. neu heb fyw, fel erthyl a guddiwyd,fel babanod na welsant oleuni.

17. Yno, peidia'r drygionus รข therfysgu,a chaiff y lluddedig orffwys.

18. Hefyd caiff y carcharorion lonyddwch;ni chlywant lais y meistri gwaith.

19. Bychan a mawr sydd yno,a'r caethwas yn rhydd oddi wrth ei feistr.

20. Pam y rhoddir goleuni i'r gorthrymediga bywyd i'r chwerw ei ysbryd,

21. sy'n dyheu am farwolaeth, heb iddi ddod,sy'n cloddio amdani yn fwy nag am drysor cudd,

Job 3