Job 3:11-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Pam na fûm farw yn y groth,neu drengi pan ddeuthum allan o'r bru?

12. Pam y derbyniodd gliniau fi,ac y rhoddodd bronnau sugn i mi?

13. Yna, byddwn yn awr yn gorwedd yn llonydd,yn cysgu'n dawel ac yn cael gorffwys,

14. gyda brenhinoedd a chynghorwyr daear,a fu'n adfer adfeilion iddynt eu hunain,

15. neu gyda thywysogion goludog,a lanwodd eu tai ag arian,

16. neu heb fyw, fel erthyl a guddiwyd,fel babanod na welsant oleuni.

Job 3