Job 29:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Gallwn olchi fy nghamau mewn llaeth,ac yr oedd y graig yn tywallt ffrydiau o olew imi.

7. “Awn allan i borth y ddinas,ac eisteddwn yn fy sedd ar y sgwâr;

8. a phan welai'r llanciau fi, cilient,a chodai'r hynafgwyr ar eu traed;

9. peidiai'r arweinwyr â llefaru,a rhoddent eu llaw ar eu genau;

10. tawai siarad y pendefigion,a glynai eu tafod wrth daflod eu genau.

11. “Pan glywai clust, galwai fi'n ddedwydd,a phan welai llygad, canmolai fi;

Job 29