Job 29:15-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Yr oeddwn yn llygaid i'r dall,ac yn draed i'r cloff.

16. Yr oeddwn yn dad i'r tlawd,a chwiliwn i achos y sawl nad adwaenwn.

17. Drylliwn gilddannedd yr anghyfiawn,a pheri iddo ollwng yr ysglyfaeth o'i enau.

18. Yna dywedais, ‘Byddaf farw yn f'anterth,a'm dyddiau mor niferus â'r tywod,

19. a'm gwreiddiau yn ymestyn at y dyfroedd,a'r gwlith yn aros drwy'r nos ar fy mrigau,

Job 29