Job 29:10-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. tawai siarad y pendefigion,a glynai eu tafod wrth daflod eu genau.

11. “Pan glywai clust, galwai fi'n ddedwydd,a phan welai llygad, canmolai fi;

12. oherwydd gwaredwn y tlawd a lefai,a'r amddifad a'r diymgeledd.

13. Bendith yr un ar ddarfod amdano a ddôi arnaf,a gwnawn i galon y weddw lawenhau.

14. Gwisgwn gyfiawnder fel dillad amdanaf;yr oedd fy marn fel mantell a thwrban.

15. Yr oeddwn yn llygaid i'r dall,ac yn draed i'r cloff.

16. Yr oeddwn yn dad i'r tlawd,a chwiliwn i achos y sawl nad adwaenwn.

17. Drylliwn gilddannedd yr anghyfiawn,a pheri iddo ollwng yr ysglyfaeth o'i enau.

Job 29