Job 27:18-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. Y mae'n adeiladu ei dŷ fel y pryf copyn,ac fel y bwth a wna'r gwyliwr.

19. Pan â i gysgu, y mae ganddo gyfoeth,ond ni all ei gadw;pan yw'n agor ei lygaid, nid oes ganddo ddim.

20. Daw ofnau drosto fel llifogydd,a chipia'r storm ef ymaith yn y nos.

21. Cipia gwynt y dwyrain ef, a diflanna;fe'i hysguba o'i le.

22. Hyrddia arno'n ddidrugaredd,er iddo ymdrechu i ffoi o'i afael.

23. Cura'i ddwylo arno,a'i hysio o'i le.”

Job 27