Job 27:15-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Y rhai a edy ar ei ôl, fe'u cleddir o bla,ac ni wyla'u gweddwon amdanynt.

16. Er iddo bentyrru arian fel llwcha darparu dillad fel clai,

17. er iddo ef eu darparu, fe'u gwisgir gan y cyfiawn,a'r diniwed a ranna'r arian.

18. Y mae'n adeiladu ei dŷ fel y pryf copyn,ac fel y bwth a wna'r gwyliwr.

19. Pan â i gysgu, y mae ganddo gyfoeth,ond ni all ei gadw;pan yw'n agor ei lygaid, nid oes ganddo ddim.

Job 27