Job 27:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Dysgaf chwi am allu Duw,ac ni chuddiaf ddim o'r hyn sydd gan yr Hollalluog.

12. Yn wir yr ydych chwi i gyd wedi ei weld eich hunain;pam, felly, yr ydych mor gwbl ynfyd?

13. “Dyma dynged y drygionus oddi wrth Dduw,ac etifeddiaeth y gormeswr gan yr Hollalluog:

14. os yw ei blant yn niferus, y cleddyf fydd eu rhan,ac ni ddigonir ei hiliogaeth â bwyd.

15. Y rhai a edy ar ei ôl, fe'u cleddir o bla,ac ni wyla'u gweddwon amdanynt.

Job 27