Job 24:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Medant faes nad yw'n eiddo iddynt,a lloffant winllan yr anghyfiawn.

7. Gorweddant drwy'r nos yn noeth, heb ddillad,heb gysgod rhag yr oerni.

8. Fe'u gwlychir gan law trwm y mynyddoedd;am eu bod heb loches, ymwthiant at graig.

9. “Tynnir yr amddifad oddi ar y fron,a chymryd plentyn y tlawd yn wystl.

10. “Cerddant o gwmpas yn noeth heb ddillad,a newynant wrth gasglu ysgubau.

Job 24