Job 24:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Dygant asyn yr amddifad i ffwrdd,a thywysant ymaith ych y weddw.

4. Gwthiant y tlawd o'r ffordd,a chwilia rhai anghenus y wlad am le i ymguddio.

5. Ânt i'w gorchwyl fel asynnod gwyllt yn yr anialwch;chwiliant am ysglyfaeth yn y diffeithwch, yn fwyd i'w plant.

6. Medant faes nad yw'n eiddo iddynt,a lloffant winllan yr anghyfiawn.

7. Gorweddant drwy'r nos yn noeth, heb ddillad,heb gysgod rhag yr oerni.

Job 24