Job 23:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Erys ef yr un, a phwy a'i try?Fe wna beth bynnag a ddymuna.

14. Yn wir fe ddwg fy nedfryd i ben,fel llawer o rai eraill sydd ganddo.

15. Am hyn yr arswydaf rhagddo;pan ystyriaf, fe'i hofnaf.

16. Duw sy'n gwanychu fy nghalon;yr Hollalluog sy'n fy nychryn;

17. nid y tywyllwch sy'n cyfyngu arnaf,na'r fagddu'n fy nghuddio.”

Job 23